Rhyddhau tri wedi i ddyn farw ym Mangor

Ffordd y Tywysog, Bangor
Image caption Cafodd y safle ar Ffordd y Tywysog ei gau i'r cyhoedd wrth i arbenigwyr fforensig ymchwilio

Mae tri o bobl, a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 50 oed ym Mangor, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Cafodd yr heddlu eu galw am 11:25pm nos Wener, wedi adroddiadau ei bod yn ymddangos fod dyn wedi disgyn o ffenestr ar lawr uchaf fflat ar Ffordd y Tywysog yn y ddinas.

Aethpwyd â'r dyn i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ble y bu farw'n ddiweddarach.

Cafodd yr ardal o gwmpas y fflat ei chau i'r cyhoedd am gyfnod tra bod arbenigwyr fforensig yn archwilio'r eiddo.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Andy Williams ddydd Mawrth: "Mae dau ddyn ac un ddynes wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

"Rydym yn arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn agos at gyffordd Ffordd y Coleg a Ffordd y Tywysog rhwng 10:00pm a hanner nos nos Wener, ac a allai fod wedi gweld rhywbeth."

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.