Dedfrydu llofrudd pump o bobl

Melanie Smith Image copyright Heddlu gogledd cymru
Image caption Roedd Melanie Smith wedi yfed cyn rhoi'r gadair wthio ar dân

Bydd y fenyw a lofruddiodd bum aelod o'r un teulu drwy gynnau tân yn fwriadol yn cael ei dedfrydu yn ddiweddarach ddydd Mercher.

Roedd Melanie Smith, 43, wedi gwadu pum cyhuddiad o lofruddiaeth, ond fe'i cafwyd yn euog gan y rheithgor ddydd Mawrth diwethaf.

Bu farw Lee-Anna Shiers, ei phartner Liam Timbrell a mab y ddau Charlie Timbrell, ynghyd â nai a nith Lee-Anna, Skye a Bailey Allen, o ganlyniad i'r tân yn eu fflat ym Mhrestatyn y llynedd.

Clywodd y llys bod Smith wedi rhoi cadair wthio ar dân pan oedd wedi yfed gormod.

Cafodd y weithred ei disgrifio yn y llys fel un "milain ac ofnadwy" a bod Smith yn eiddigeddus o'r fenyw oedd yn byw yn y fflat uwch ei phen.

Fe fydd yn cael ei dedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug rhywbryd wedi 10:00am fore Mercher.

Straeon perthnasol