Wigan 2-3 Abertawe

Image copyright PA
Image caption Angel Rangel yn dathlu ei gôl

Wigan 2-3 Abertawe

Mewn gwirionedd roedd y gêm hon yn llawer pwysicach i Wigan nag i Abertawe. Mae tîm y Liberty eisoes yn ddiogel yn yr Uwchgynghrair am dymor arall tra bod y tîm cartref yn brwydro i gadw'u statws yn y brif adran.

Er hynny, bechgyn Michael Laudrup gafodd y gorau o'r hanner cyntaf, gydag Ashley Williams yn dod yn agos i sgorio fwy nag unwaith.

Ond yna wedi tri chwarter awr heb gôl fe ddaeth y gyntaf gyda chic olaf yr hanner cynta' bron, a hynny yn yr amser ychwanegol am anafiadau.

Roger Espinosa darodd yr ergyd aeth drwy fôr o goesau i gornel y rhwyd i roi Wigan ar y blaen.

Ond ar ôl disgwyl cyhyd am y gyntaf, fe ddaeth goliau lu wedi'r egwyl.

Abertawe gafodd y gyntaf i ddod yn gyfartal. Daeth pas dreiddgar Wayne Routledge o hyd i Angel Rangel, ac fe aeth foli wyth y Sbaenwr heibio Joel yn y gôl.

Ond yna o fewn dau funud roedd Wigan ar y blaen drachefn, gyda James Mc Carthy yn codi gobeithion y cefnogwyr cartref am fuddugoliaeth.

Oherwydd anaf doedd prif sgoriwr Abertawe y tymor hwn, Michu, ddim yn medru chwarae, ond fe wnaeth ei ddirprwy greu argraff.

Itay Shechter gafodd ei alw i'r tîm, ac wedi 59 munud fe ddaeth ag Abertawe yn gyfartal am yr eildro gyda'i gôl gyntaf dros y clwb yn dilyn camgymeriad amddiffynnol gan Gary Caldwell.

Ond roedd gwaeth i ddod yn amddiffynnol i Wigan. Roedd chwarter awr yn weddill pan ddaeth pas i mewn i'w cwrt cosbi, ac mi fethodd pentwr o chwaraewyr y tîm cartref y bêl yn llwyr gan roi cyfle i Abertawe.

Tipyn o syndod oedd gweld y cefnwr Dwight Tiendalli yn sgorio'i gôl gyntaf i'r clwb hefyd.

Daeth pryder i Michael Laudrup bum munud cyn y diwedd wrth i golwr Abertawe, Michael Vorm, daro yn erbyn ei chwaraewr ei hun - Ben Davies - yn y cwrt cosbi, a bu'n rhaid iddo adael y maes ar stretsier.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Abertawe oddi cartref yn 2013 heblaw am rownd derfynol Cwpan Capital One yn Wembley - mae'r canlyniad bron yn sicrhau y bydd Abertawe yn gorffen y tymor yn hanner uchaf y tabl, ac hefyd yn cynyddu'r tebygrwydd y bydd Wigan yn disgyn i'r Bencampwriaeth y tymor nesaf.

TABL UWCHGYNGHRAIR LLOEGR
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man United 36 +42 85
2. Man City 36 +31 75
3. Chelsea 35 +34 68
4. Arsenal 36 +31 67
5. Tottenham 35 +18 65
9 ABERTAWE 36 0 46

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.