'Siom' am drafodaethau ar Ynys Môn

Pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn
Image caption Ni chafodd yr un blaid fwyafrif clir ar gyngor Ynys Môn

Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ynys Môn wedi dweud ei fod yn siomedig bod aelodau Llafur yr awdurdod yn trafod gyda'r garfan annibynnol.

Yn siarad ar Newyddion9, dywedodd y cynghorydd Bob Parry ei fod yn dal yn obeithiol y bydd yr aelodau Llafur yn ymuno gyda Phlaid Cymru mewn clymblaid.

Yn dilyn yr etholiad ddydd Iau diwethaf, fe gafodd 14 o aelodau annibynnol eu hethol i'r cyngor, gyda 12 aelod o Blaid Cymru, 3 Llafur ac 1 Democrat Rhyddfrydol.

Byddai Plaid Cymru a Llafur felly yn medru ffurfio clymblaid gyda 15 aelod.

Ond dywedodd Mr Parry bod arweinydd y garfan Lafur, y Cynghorydd Arwel Roberts, yn trafod gydag arweinydd y grŵp annibynnol, ac fe allai hynny arwain at grŵp o 17 i reoli'r awdurdod.

Nid yw trafodaethau ffurfiol rhwng Plaid Cymru a'r blaid Lafur wedi dechrau hyd yma.

Dywedodd Mr Parry bod yr aelodau Llafur yn ymwybodol o ddymuniad Llywodraeth Cymru i weld gwleidyddiaeth bleidiol yn dychwelyd i'r ynys yn hytrach na charfannau annibynnol.

Ond roedd yn gwadu bod y sefyllfa yn dychwelyd yr awdurdod i'r hen drefn garfannol ar yr ynys.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.