Llong fôr yn ymweld ag Abertawe

HMS Scott Image copyright Royal Navy
Image caption HMS Scott yw'r unig long fôr arolygu sydd gan y Llynges Frenhinol

Mae un o longau'r Llynges Frenhinol, yr HMS Scott, yn ymweld ag Abertawe am bum diwrnod.

Dyw'r llong ddim wedi ymweld â'r ddinas ers saith mlynedd.

Mae hi newydd ddychwelyd i Brydain ar ôl treulio tri mis ar y môr coch a Gwlff Aden a bydd cyfle i'r cyhoedd fynd ar ei bwrdd.

Nos Fercher roedd rhai o'r criw yn westai mewn derbyniad gyda Chyngor Abertawe.

Ar ddydd Iau mae disgyblion o ysgolion lleol yr ardal yn ymweld â'r llong a grŵp o adran biowyddorau Prifysgol Abertawe.

Bydd 12 aelod o'r gwarchodlu yn ogystal â'r Prif Swyddog, Comander Patrick Mowatt yn mynd i weld y cynghorydd June Stanton yn tyngu llw fel maer newydd y dref nos Wener.

Dydd Sadwrn bydd modd i unrhyw un fynd i weld y llong rhwng 11:00 a 4:00.

Dyma'r unig long fôr arolygu sydd gan y Llynges Frenhinol a'r pumed long fwyaf sydd ganddyn nhw.

Mae'n pwyso 13,500 tunnell ac wedi ei henwi ar ôl Capten Scott yr archwiliwr aeth i'r Antartig.

Dywedodd y Comander Patrick Mowatt:

"Mae ein cysylltiadau gydag Abertawe yn arbennig iawn i ni.

Mae'r cyngor a'r bobl yn dangos cefnogaeth wych ac mae'n bleser medru dod a'r llong yn ôl i'r porthladd unwaith eto fel ein bod ni yn medru gwneud rhywbeth bach i ddangos ein gwerthfawrogiad."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.