Alun Ffred Jones am ymddeol

Alun Ffred
Image caption Fe wnaeth Alun Ffred Jones ennill tri etholiad Cynulliad dros Blaid Cymru

Mae'r Aelod Cynulliad Plaid Cymru Alun Ffred Jones wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor Cynulliad presennol.

Mae wedi bod yn cynrychioli ei etholaeth yn y Cynulliad ers 2003, yn olynu Dafydd Wigley i etholaeth Caernarfon yn 2003 ac yna'n ennill sedd Arfon yn 2007 ac 2011 wedi ad-drefnu'r ffiniau.

Cafodd Mr Jones brofiad o lywodraethu fel rhan o lywodraeth Cymru'n Un rhwng 2008 ac 2011 fel y gweinidog oedd a chyfrifoldeb am dreftadaeth.

Ar hyn o bryd mae'n cynrychioli ei blaid fel llefarydd ar fusnes, yr economi, gwyddoniaeth a datganoli.

Wrth gyhoeddi ei fod wedi ymladd ei etholiad olaf fel Aelod Cynulliad, dywedodd Mr Jones: "Mae hi'n fraint cynrychioli pobl Arfon a fy mwriad i ydi cyflawni'r gwaith gyda'm holl egni tan yr etholiad nesa.

"Erbyn hynny mi fydda i wedi gweithio am bron 45 mlynedd ac mae'r amser wedi dod i gamu'n ôl tra dwi'n dal yn iach a heini.

"Mae cael gwaed newydd a golwg newydd ar bethau yn iach mewn gwleidyddiaeth ac mae angen hynny yn y Cynulliad. Mae hwn yn gyfnod newydd cyffrous i Gymru, gyda mwy o bwerau i'r Cynulliad, ond mae gwaith mawr i'w wneud i adfer ein heconomi."

'Gadael bwlch mawr'

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood y byddai Mr Jones yn gadael "bwlch mawr ar ei ôl".

"Mae ei farn gytbwys, ei arweiniad doeth a'i hiwmor cynnil wedi ennill parch ar draws y pleidiau. Bydd yn dal i wasanaethu ei etholwyr a'i genedl gyda'r un brwdfrydedd ac egni am y tair blynedd nesaf" meddai Ms Wood.

Cyn troi ei ddawn at wleidyddiaeth bu Mr Jones, sy'n cael ei adnabod gan lawer fel Alun Ffred, yn athro, pennaeth adran, newyddiadurwr a chynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu.

Bydd llawer yn ei gofio am gyd-ysgrifennu'r rhaglen deledu boblogaidd 'C'mon Midffîld' ar y cyd gyda Mei Jones.

Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa, dywedodd Mr Jones ei fod yn "falch o'r hyn a gyflawnwyd yn ystod cyfnod Plaid Cymru mewn llywodraeth".

O ran y dyfodol, dywedodd y bod dal llawer o waith i'w wneud i sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg:

"Gallwn ymfalchïo yn y Ddeddf Iaith, y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ond mae heriau mawr yn aros, gan gynnwys rhoi ystyriaeth lawn i'r effaith ar y Gymraeg wrth ystyried ceisiadau cynllunio."

Straeon perthnasol