Dwy gêm arall i Stadiwm Morgannwg

Stadiwm Swalec Image copyright Huw Evans picture agency

Bydd Awstralia yn cynnal dwy gêm baratoadol cyn cystadleuaeth Tlws Pencampwyr ICC yng Nghaerdydd.

Fe fydd Awstralia yn wynebu India'r Gorllewin yn Stadiwm Swalec ar Fehefin 1, ac India dridiau yn ddiweddarach.

Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Morgannwg, Alan Hamer: "Yn amlwg, mae'r rhain yn gemau mawr fydd yn codi proffil y gystadleuaeth yn fwy.

"Mae'n gystadleuaeth bwysig. Yn ogystal â'r pwysigrwydd ariannol, mae gwaddol ynghlwm wrth y gystadleuaeth.

"Os bydd popeth yn mynd yn dda, mae gennym bob cyfle o sicrhau mwy o gemau proffil uchel yn y dyfodol, ac fe fydd hynny'n siŵr o fod o fudd i Forgannwg ac i griced yng Nghymru."

Mae'r gemau paratoadol yn ychwanegol i'r pum gêm yn y gystadleuaeth go iawn fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Bydd stadiwm Morgannwg yn cynnal pedair gêm grŵp yn y gystadleuaeth yn ogystal ag un o'r rowndiau cynderfynol.