Alun Davies: Ymateb i'r cwynion

Gareth Wyn Jones Image copyright PA
Image caption Cafodd rheolau eu llacio fel bod ffermwyr yn medru claddu anifeiliaid ar eu tir eu hunain wedi'r eira

Mae'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros amaethyddiaeth wedi amddiffyn y gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi i ffermwyr ar ôl i nifer golli stoc yn yr eira diweddar.

Nos Iau cafwyd cyfarfod rhwng Alun Davies a ffermwyr yn y Bala.

Roedd rhyw 300 yno ond fe gerddodd 20 allan o'r cyfarfod ar ôl cyflwyno llythyr iddo yn gofyn iddo ymddiswyddo.

Daeth eira i rannau o Gymru ym mis Mawrth gan olygu bod llawer o ffermwyr wedi colli defaid ac ŵyn.

Mae rhai ffermwyr yn anhapus bod galwadau am iawndal wedi cael eu gwrthod gan Mr Davies, ond mae e'n mynnu ei fod wedi ymateb i'w pryderon.

Llacio rheolau

Cyn y cyfarfod, dywedodd Mr Davies ei fod am glywed sut y gallai liniaru effaith tywydd drwg ar amaeth yn y dyfodol.

Ar ôl y tywydd drwg diweddar, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lacio'r rheolau gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n ymwneud â chael gwared ar gyrff anifeiliaid o dir ffermydd.

Roedd hynny'n golygu fod gan ffermwyr mewn rhannau o Gonwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Gwynedd, Sir y Fflint, Ceredigion a Phowys yr hawl i gladdu defaid ac ŵyn am gyfnod penodol.

Er hynny mae'r ffermwyr wedi methu argyhoeddi Mr Davies - y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd - y dylen nhw gael iawndal am eu colledion.

'Dim dyfodol'

Dywedodd Aled Jones, sy'n ffermio yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog: "Roedd cyfarfod yn Ninas Mawddwy bythefnos yn ôl, a'r farn y noson honno oedd y dylai'r gweinidog orfod ymddiswyddo - rydym wedi rhoi pythefnos ychwanegol iddo ond fe ddaeth yn ôl heb gynnig unrhyw beth arall.

"Doedd gan ein cadeirydd Glyn Jones ddim dewis ond rhoi llythyr iddo (yn galw am ymddiswyddiad) a dyna pam y mae canran ohonom wedi cerdded allan heno.

"Roedd y tair wythnos o eira a thywydd caled a gawsom wedi cipio'n bywoliaeth i ffwrdd am eleni, ac o bosib y flwyddyn nesaf hefyd.

"Does gennym ddim byd i'w cynnal at y flwyddyn nesaf - fe fydd gan ddiwydiannau eraill 49 neu 50 wythnos i wneud eu harian yn ôl. Does gennym ddim byd eleni, a dim dyfodol at y flwyddyn nesaf."

Siomedig

Er mai lleiafrif o ffermwyr adawodd y cyfarfod yn gynnar, roedd y rhai arhosodd yn siomedig hefyd.

Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Emyr Jones:

"Fe allai fod wedi dod â thaliad Tir Mynydd yn ôl neu ryw fath arall o gymhorthdal i ffermwyr ucheldir.

"Mae gan bob gwlad arall yn Ewrop rhyw gynllun i ffermwyr ucheldir - ni yw'r unig rai sydd heb. Mae'r tywydd diweddar wedi dangos pa mor anodd yw ffermio ar dir uchel.

"Mae'n beth da eu bod wedi rhoi arian i elusennau amaethyddol - maen nhw'n gwneud llawer o waith da, ond mae'r sefydliadau yma'n cynorthwyo teuluoedd sydd wedi diodde' profedigaeth neu drasiedïau eraill.

"Nid yw ffermwyr yn teimlo'n gyffyrddus yn gofyn am gymorth gan yr elusennau yma o dan yr amgylchiadau yma."

Roedd Ed Bailey, yn siarad ar ran Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) yng Nghymru, hefyd yn credu y dylai'r llywodraeth fod wedi gwneud mwy.

Dywedodd: "Rwy'n credu bod pobl wedi bod yn disgwyl rhyw fath o gyhoeddiad ond roedd yn eithaf clir na fyddai yna fwy."

"Cyfeiriodd y gweinidog i dalid o £500,000 wnaethpwyd gan Lywodraeth Cymru i elusennau ffermio ond mae rhai'n teimlo ei fo yn annheg disgwyl i ffermwr fynd cap mewn llaw."

'Sgwrs ddifyr'

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi rhoi £500,000 i elusennau amaeth i gynorthwyo gyda phrinder porthiant, symud stoc a gollwyd ac ar gyfer cyngor a chefnogaeth.

Mae'r llywodraeth hefyd mewn trafodaethau gyda'r UE i ddod â thaliadau cymorth ffermydd unigol ymlaen er mwyn cynorthwyo gyda phroblemau llif arian i'r rhai sydd wedi diodde' waethaf.

Mae Mr Davies hefyd wedi comisiynu adolygiad brys o ddycnwch y diwydiant yn y tymor hir a chymedrol yn erbyn achosion o dywydd drwg yn y dyfodol.

Fe ddywedodd y gweinidog bod y cyfarfod wedi bod yn un buddiol:

"Mi gawson ni sgwrs arbennig o dda. Sgwrs ddifyr, sgwrs a thrafodaeth ambiti dyfodol y diwydiant, sgwrs ambiti beth sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau a misoedd diwethaf.

"Ond sgwrs ambiti'r dyfodol a dyna lle dw i eisiau bod nawr - trafod sut ydyn ni yn sicrhau resilience yn y diwydiant a sicrhau dyfodol i'r diwydiant a dw i yn hyderus iawn bod ni yn gallu gwneud hynny."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.