Scarlets yn ceisio anghofio Treviso

Simon Easterby Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Simon Easterby yn cydnabod fod y Scarlets wedi bod yn ffodus i gyrraedd y rowndiau terfynol

Mae hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby, yn gobeithio y bydd ei dîm yn medru troi embaras i lwyddiant wrth baratoi am rownd gynderfynol y Pro12 nos Wener.

Ar ddiwrnod ola'r tymor arferol nos Wener ddiwethaf, fe gollodd y Scarlets mewn chwalfa yn erbyn Treviso ar Bac y Scarlets o 41-17.

Yr unig reswm bod y rhanbarth yn y rowndiau terfynol yw bod y Gweilch wedi methu curo Leinster yn eu gêm olaf nhw, ac mae Easterby yn cydnabod ei lwc.

"Rydym yn ffodus o gael y cyfle wythnos yn ddiweddarach i wneud yn iawn am hynny," meddai.

"Rydym wedi gwylio'r fideo o'r gêm a doedd hi ddim yn bert.

"Rwy'n credu bod y chwaraewyr wedi deall y diffyg safon yn y gêm, ac fe ddangoswyd hynny yn y canlyniad.

"Ond pe bai'r Gweilch wedi ennill fe fydden ni wedi gorfod aros am dri mis cyn cael cyfle i wneud yn iawn am y perfformiad."

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd George North yn gadael y Scarlets am Northampton pan fydd y tymor ar ben

'Rhaid anghofio Treviso'

Y newyddion da i'r Scarlets yw y bydd Rhys Priestland yn dechrau gêm am y tro cyntaf ers cael anaf drwg i'w goes ym mis Rhagfyr.

Y gêm yn erbyn Treviso oedd ymddangosiad olaf dau o sêr y tîm o Lanelli ym Mharc y Scarlets - George North a Matthew Rees - cyn i'r ddau adael dros yr haf.

Ond mae North yn hyderus y bydd ganddo ddwy gêm arall i'r rhanbarth - Ulster nos Wener a'r rownd derfynol ar Fai 25.

Dywedodd North: "Mae'n debyg bod rhaid i ni symud ymlaen ac anghofio Treviso nawr.

"Mae Ulster yn dîm rhagorol, a phan maen nhw'n chwarae ar eu tomen eu hunain, gall y lle fod yn dipyn o gadarnle iddyn nhw.

"Ond dydych chi ddim yn cyrraedd y rownd gynderfynol ar chwarae bach. Fe fydd rhaid i ni wthio'n galed ac ymosod...ymosod...ymosod."

Yn y tymor arferol fe drechodd Ulster y Scarlets o 47-15 yn Ravenhill yn ogystal â chipio buddugoliaeth o 19-12 yn Llanelli.

ULSTER v.SCARLETS; Rownd gynderfynol y Pro12, Ravenhill; Nos Wener, Mai 10 - Y Timau:

Ulster: J Payne, A Trimble, D Cave, S Olding, T Bowe, P Jackson, R Pienaar; T Court, R Best, D Fitzpatrick, J Muller, D Tuohy, R Diack, C Henry, N Williams.

Eilyddion: R Herring, C Black, R Lutton, I Henderson, M McComish, P Marshall, M Allen, P Nelson.

Scarlets: Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Andy Fenby; Rhys Priestland, Aled Davies; Phil John, Ken Owens, Samson Lee, George Earle, Johan Snyman, Aaron Shingler, Rob McCusker (capten), Josh Turnbull.

Eilyddion: Emyr Phillips, Rhodri Jones, Jacobie Adriaanse, Jake Ball, Sione Timani, Gareth Davies, Owen Williams, Gareth Owen.

Straeon perthnasol