Pro12: Sgarlets yn colli

Image caption Doedd cais unigol gwych Gareth Davies ddim yn ddigon i achub y Sgarlets

Ulster 28-17 Scarlets

Collodd y Sgarlets eu gem gyn-derfynol mewn gem unochrog yn erbyn Ulster yn Ravenhill nos Wener.

Sgoriodd y tîm cartref eu cais cyntaf ar ôl 25 munud, yn fuan wedi i Liam Williams dderbyn cerdyn melyn.

Llwyddodd Ruan Pienaar i drosi, a cafodd gyfle i wneud yr un fath lai na deng munud wedyn wedi cais arall gan Robbie Diack.

Methodd y tro hwnnw ond nid oedd yn Ulster yn debygol o dalu am hynny.

Roedd hi'n 18-3 wrth i'r chwiban gael ei chwythu ar ddiwedd yr hanner, ac roedd y gêm drosodd i bob pwrpas.

Doedd cais unigol gwych gan Gareth Davies gyda 20 munud ar ôl ar y cloc ddim yn ddigon i achub noson - na thymor - y Sgarlets.

Bydd cefnogwyr y Sgarlets yn teimlo dylai Ulster fod wedi derbyn o leiaf un cerdyn melyn yn ystod yr ail hanner - roedd llawer ohonynt yn feirniadol iawn o berfformiad y dyfarnwr Alain Rolland yn dilyn y gem.

Golygai'r canlyniad bod gyrfa asgellwr Cymru George North gyda'r Scarlets yn dod i ben ar nodyn isel.

Roedd wedi sgorio naw cais yn mewn deg gem cyn y gêm yn erbyn Ulster - bydd nawr yn symud i Loegr i ymuno a chlwb Northampton.

Rownd cyn-derfynol

Image copyright Celtic Rugby

Y cyfan oedd yn rhaid i'r tîm o Lanelli wneud er mwyn cyrraedd y rownd gyn-derfynol y Pro 12 oedd osgoi colli gartref yn eu gem olaf i Treviso, neu gipio pwynt bonws wrth golli.

Roedd hyd yn oed hynny'n drech na nhw, ac fe ildion nhw bedwar cais a phum gôl gosb wrth golli'n drwm.

Bu'n rhaid dibynnu felly ar ganlyniad arall er mwyn gorffen yn y pedwerydd safle yn y tabl.

Ond roedd Ulster yn rhy gryf i'r clwb o Gymru allu cyrraedd y rownd olaf.

Bydd Leinster yn croesawu Glasgow nos Sadwrn er mwyn cystadlu am y fraint o wynebu Ulster yn y rownd derfynol.

Straeon perthnasol