Menyw wedi ei darganfod yn saff

Gaynor Rees Image copyright Heddlu Dyfed Powys
Image caption Mae Gaynor Rees bellach wedi ei darganfod yn saff

Mae menyw a ddiflannodd yn ardal Caerfyrddin wedi cael ei darganfod yn saff.

Roedd Gaynor Rees sydd yn 47 oed wedi bod ar goll ers 8.30pm nos Fercher.

Mae hi'n cael ei hadnabod yn lleol fel Molly ac roedd yr heddlu wedi bod yn gynyddol bryderus amdani ar ôl iddi gael ei gweld diwethaf yn cerdded i ffwrdd o Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Glangwili.

Ond fe gafodd hi ei darganfod yn ddiogel nos Wener.

Straeon perthnasol