Dathlu bywyd RS Thomas

RS Thomas Image copyright PA
Image caption Cafodd RS Thomas ei eni yng Nghaerdydd yn 1913

Mae gwasanaeth i ddathlu bywyd a gwaith y bardd R S Thomas yn digwydd ddydd Sadwrn yng Nghadeirlan Bangor.

Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan sydd yn annerch gyda darnau o'i waith yn cael eu darllen yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Heddiw mae'r beirniaid llenyddol yn dweud mai ef oedd un o'r prif feirdd crefyddol yn y Saesneg yn yr ugeinfed ganrif ac eleni mae hi'n hanner can mlynedd ers iddo gael ei eni.

Penwythnos i gofio'r bardd

Yn ystod y penwythnos mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ym Mangor a hynny yn arwyddocaol am iddo astudio yno a threulio rhan olaf ei weinidogaeth yn Aberdaron yn Esgobaeth Bangor.

Nos Wener roedd Dr Barry Morgan yn traddodi Darlith Goffa Flynyddol Kyffin Williams yn Llangefni. Yn ystod y ddarlith roedd yn cymharu'r ddau ŵr, Syr Kyffin Williams ac RS Thomas.

Roedd yn adnabod y ddau ohonyn nhw.

Ddydd Sul bydd taith gerdded yn digwydd.

Bydd y daith yn cychwyn o gartref y bardd ym Mhlas Sarn Rhiw ac yn dilyn llwybr yr arfordir nes cyrraedd Eglwys Hywyn Sant yn Aberdaron.

RS Thomas oedd offeiriad Aberdaron ar un cyfnod.

Bydd eu gerddi yn cael eu darllen ar y ffordd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.