Diwedd perffaith i Syr Alex

Image copyright Alex Livesey
Image caption Dyma oedd gêm olaf adref Syr Alex Ferguson

Manchester United 2-1 Abertawe

Manchester United oedd yn fuddugol ar ddiwedd y gêm Uwchgynghrair yn erbyn Abertawe.

Hon oedd y gêm olaf adref i reolwr y clwb Syr Alex Ferguson.

Mi enillodd y tîm 2-1.

Cyn y chwiban cyntaf pan aeth y rheolwr o'r Alban ar y cae roedd fflagiau coch yn chwifio a'r gair 'Champion' wedi ei sillafu ymysg y dorf.

Fe safodd y chwaraewyr pêl droed o'r ddau dîm mewn rhes er mwyn dangos eu parch tuag ato hefyd.

Javier Hernandez sgoriodd gyntaf ar gyfer y tîm cartref a hynny ar ol 39 munud.

Mi oedd y dyn o Fecsico wedi bod yn bygwth sawl gwaith cyn hynny.

Ond 4 munud ar ôl dechrau'r ail hanner mi darodd yr Elyrch yn ôl gyda gôl o droed chwith Michu.

Roedd Abertawe yn llawer mwy pwrpasol yn eu chwarae ac mi achoson nhw broblemau i Man U yn Old Trafford.

Ond mi oedd popeth drosodd wrth i Rio Ferdinand sgorio o'r postyn pellaf gyda thri munud i fynd nes y chwiban olaf. Dyma gôl cyntaf y chwaraewr ers pum mlynedd a gôl syml oedd hi.

Cafwyd tri munud ychwanegol ar ddiwedd y gêm ond ni newidiodd y sgôr.

Dyma oedd y diwedd perffaith i Syr Alex ac i gefnogwyr y clwb.

Straeon perthnasol