Cyhuddo o lofruddio: Yn y llys

Cerbyd yr heddlu yn Nhre-gŵyr, Abertawe
Image caption Cafodd y dyn ei ddarganfod yn y ffordd yn Nhre-gŵyr fore Sadwrn

Mae menyw 23 oed ar gyhuddiad o lofruddio dyn y daethpwyd o hyd iddo wedi ei anafu ar ffordd wedi bod yn y llys.

Roedd Katie Jenkins o Waunarlwydd, Abertawe, yn Llys Ynadon Abertawe cyn cael ei chadw yn y ddalfa.

Y dyn fu farw oedd Richard Craddock.

Fe gafodd Heddlu'r De eu galw i Heol Sterry yn Nhre-gŵyr tua hanner awr wedi un fore Sadwrn.

Aethpwyd â'r dyn i Ysbyty Treforys ond fe fu farw.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu bod y ddau'n eistedd mewn car Ford Fusion arian adeg y drosedd.

"Rydym yn meddwl am deulu Richard ar yr adeg anodd hon ac mae swyddogion arbenigol yn eu cefnogi nhw," meddai'r Ditectif Uwcharolygydd Huw Lewis.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ac yn gofyn i bobl eu ffonio ar y rhif 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.