Adeiladu llongau: Creu 100 o swyddi ym mhorthladd Penfro

Bydd mwy na 100 o swyddi'n cael eu creu wrth i gwmni adeiladu llongau ehangu oherwydd buddsoddi o £1.5m.

Dywedodd Mustang Marine y byddai nifer y gweithwyr yn dyblu a chyfleusterau'n cael eu codi ym mhorthladd Penfro.

Y rheswm am y datblygiad, meddai, oedd mwy o alw oddi wrth gwmnïoedd ym mhedwar ban y byd.

Porthladd Aberdaugleddau, sy'n berchen ar borthladd Penfro, sy'n buddsoddi.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Mustang Marine Kevin Lewis: "Mae hyn yn newyddion gwych i'r economi leol."