AS ddim yn ymgymryd â'i ddyletswyddau

Nigel Evans Image copyright Reuters
Image caption Mae Nigel Evans wedi dweud y bydd yn parhau fel AS dros Ribble Valley

Ni fydd y Dirprwy Lefarydd yn ymgymryd â'i ddyletswyddau yn Nhŷ'r Cyffredin tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Cafodd Nigel Evans AS ei arestio ar amheuaeth o dreisio dyn ac ymosod yn rhywiol ar ddyn arall yn Pendleton, Sir Gaerhirfryn, rhwng Gorffennaf 2009 a Mawrth 2013.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Mehefin.

Mae wedi gwadu'r honiadau, gan ddweud eu bod yn "gwbl ffug".

Roedd wedi gofyn am beidio â chadeirio dadleuon Araith y Frenhines.

Ond mae'r Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, yr AS Ceidwadol John Bercow, wedi cytuno "na fydd yn ailafael yn ei ddyletswyddau cadeirio wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau."

Cafodd Mr Evans, AS Ribble Valley ers 1992, ei ethol yn un o dri dirprwy lefarydd dair blynedd yn ôl.

Straeon perthnasol