Unedau brys: Galw am ganslo ad-drefnu

Ysbytai
Image caption Mae ysbytai ledled Cymru yn dweud eu bod yn gweld mwy o gleifion nag erioed o'r blaen

Mae 'na alw am ganslo ad-drefnu unedau brys ysbytai yn ne Cymru.

Yn ôl Darren Millar AC, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, ni ddylai'r cynlluniau fynd yn eu blaen oherwydd bod nifer y bobl sydd yn eu defnyddio wedi cyrraedd lefelau argyfyngus.

Mae disgwyl i'r byrddau iechyd gyhoeddi rywbryd ym mis Mai y byddan nhw'n cwtogi nifer yr adrannau gofal brys a damweiniau.

Mae arbenigwyr yn dadlau nad yw'n bosib cynnal yr amrediad presennol o wasanaeth sydd i'w gael mewn gwahanol ysbytai mewn modd diogel.

"Cynlluniau ffôl"

Ond mae Mr Millar yn credu y byddai hi'n annoeth torri yn ôl mewn cyfnod ble mae 'na bwysau mawr ar wasanaethau iechyd.

"Er bod moderneiddio synhwyrol ar y gwasanaeth yn y rhanbarth yn rhywbeth y gallwn i gyd ei gefnogi, cynlluniau ffôl i gael gwared â gwasanaethau brys o ysbytai lleol yw'r peth olaf y bydd cleifion yn ne Cymru yn barod i dderbyn.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd Mr Millar: "Mae 'na lawer o benderfyniadau anodd i'w gwneud ynglŷn ag ad-drefnu gwasanethau iechyd. Pan mae gwasnaethau adrannau gofal brys a damweiniau yn y cwestiwn, rydwi'n teimlo - oherwydd y pwysau yr ydym ni wedi eu gweld, y cynnydd mewn galw - y peth olaf ddylem ni fod yn ei wneud ydi torri'n ôl ar wasanaethau adrannau gofal brys yn ne Cymru ... mae'n wallgof ac mae'n mynd yn groes i synnwyr cyffredin"

"Rydwi'n annog Llywodraeth Cymru i gamu i mewn a sicrhau y bydd yr holl adrannau brys yn cadw eu lefelau presennol o wasanaeth."

Mae'r newidiadau, sy'n rhan o gynllun Rhaglen De Cymru, yn cynnwys ardaloedd byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Aneurin Bevan, Cwm Taf, Abertawe Bro Morgannwg a Phowys.

Os bydd y cynlluniau'n mynd yn eu blaen bydd rhai gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn cael eu canoli mewn hyd at bump safle yn hytrach na'r saith presennol.

Bydd rhain yn unedau fyddai'n cael eu harwain gan ymgynghorwyr 24 awr y dydd am saith niwrnod yr wythnos.

Mae cynlluniau ar gyfer canolfan argfyngau newydd yn Llanfrechfa ger Cwmbrân fyddai'n golygu y byddai llai o wasanaethau ar gael yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ac Ysbyty Neville Hall yn Y Fenni.

Bydd safle pedweredd neu bumed uned yn cael ei dewis o blith Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

'Hawl i ymyrryd'

Fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones orchymyn bod adolygiad yn cael ei gynnal ynglŷn â'r penderfyniad i symud gwasanaethau babanod newydd-anedig sâl iawn o ogledd Cymru dros y ffin i Arrowe Park yng Nghilgwri.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n ystyried ymyrryd yn y de os byddai'r newidiadau'n profi i fod yn amhoblogaidd, dywedodd Mr Jones: "Rydym yn disgwyl i fwrdd y rhaglen roi ei argymhellion ond, wrth gwrs, bod gweinidogion Cymru yn cadw'r hawl i ymyrryd pan fydd hynny'n briodol."

Dywedodd ei fod yn ymyrryd yn yr ad-drefnu yng ngogledd Cymru oherwydd ei bryder ynghylch "ein dibyniaeth y bydd Arrowe Park yno yn y dyfodol".

Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn mynd i ddyfalu ynghylch yr hyn y gallai bwrdd y rhaglen [de Cymru] gynhyrchu - mae hynny'n fater iddyn nhw ac rwy'n sicr y bydd eu cynigion pan fyddan nhw yn cael eu cyflwyno yn cael eu hystyried yn fanwl gan y cyhoedd."

Ar ran y byrddau iechyd sy'n gyfrifol am Raglen De Cymru, dywedodd Dr Grant Robinson, cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: "Ni allwn barhau i ddarparu'r holl wasanaethau hyn ym mhob lleoliad ar draws de Cymru.

"Mae angen i ni ganolbwyntio'r gwasanaethau hyn er mwyn sicrhau bod pob claf yn cael gofal diogel a chynaliadwy."

Yn ystod sesiwn cwestiynau i'r prif weinidog ar Mai 14, cyhoeddodd Mr Jones y byddai cyhoeddiad ar yr ad-drefniant yn cael ei wneud "ddiwedd y mis".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.