Dyn o Slofacia'n gwadu llofruddiaeth

Stryd Plassey
Image caption Cafwyd hyd i gorff Branislav Gula mewn fflat yn y Bala ym mis Tachwedd 2012

Mae dyn o Slofacia sydd wedi ei gyhuddo o ladd dyn arall yn y Bala yn honni ei fod ond yn ceisio amddiffyn ei hun, clywodd rheithgor yng Nghaernarfon.

Mae Julius Hecko, 23 oed, yn gwadu llofruddio Branislav Gula, 42 oed a hefyd o Slofacia, ym mis Tachwedd y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Mr Gula wedi marw o anafiadau difrifol i'w ben yn ei fflat yn y Bala, Gwynedd.

Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Hecko wedi ymosod ar Mr Gula mewn tymer. Clywodd y llys fod gwaed wedi tasgu ar hyd waliau'r fflat.

Dywedodd yr erlynydd Karl Scholtz: "Mae patrwm y gwaed yn dangos nifer o ergydion tra 'roedd Mr Gula yn gorwedd ar lawr.

"Does dim dadl mai Mr Hecko oedd yn gyfrifol am yr ergydion yna."

Clywodd y rheithgor bod Mr Hecko wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi bod adre' yn ystod y dydd pan gafodd ei holi i ddechrau, ond ei fod wedi newid ei stori yn ddiweddarach.

Mewn datganiad ar ran yr amddiffyniad, mae'n honni i Mr Gula ei daro yntau a'i fod ar fin arfogi ei hun gyda chyllell. Yr unig reswm iddo gicio Mr Gula, meddai, oedd er mwyn ei atal rhag parhau gyda'r ymosodiad.

Mae Julius Hecko yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Mae'r achos yn parhau ac mae disgwyl iddo bara am dair neu bedair wythnos.

Straeon perthnasol