Damwain: Dyn oedrannus wedi marw

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn oedrannus farw yn y fan a'r lle wedi gwrthdrawiad ar yr A539 yn Sir Wrecsam.

Cafodd plismyn eu galw toc cyn 9pm nos Fercher ar ôl i gar Mini a Suzuki Alto daro ei gilydd.

Bu farw'r dyn o ogledd Sir Amwythig oedd yn gyrru'r Suzuki.

Cafodd y fenyw oedd yn gyrru'r cerbyd arall anafiadau ond deellir nad yw ei bywyd hi mewn perygl.

Cafodd y ffordd ei chau a'i hail agor am 1am.

Dylai lygad dystion neu unrhyw un gyda gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 a siarad â'r Cwnstabl Aled Jackson yn yr adran plismona ffyrdd neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.