Batwyr Morgannwg ar ei hôl hi

Image copyright Glamorgan CCC

Mae Morgannwg ar ei hol hi yn erbyn Essex ar drydydd diwrnod y chwarae.

Essex wnaeth reoli'r chwarae yn ystod y bore wrth gipio tair wiced - cafodd Ben Wright ei fowlio allan heb rediad gan fowliwr Essex David Masters.

80 rhediad am dair wiced oedd sgôr Morgannwg erbyn amser cinio, 34 rhediad tu ôl i Essex.

Bydd Morgannwg yn gobeithio am berfformiad da gan Stewart Walters yn ystod y prynhawn.

Cafodd bowlwyr Morgannwg diwrnod siomedig ddydd Iau, fel cafodd y batwyr ddydd Mercher, yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Essex yng Nghaerdydd.

Daeth batiad cyntaf Morgannwg i ben am 231, gyda dim ond Jim Allenby a Stewart Walters yn cyfrannu sgoriau o sylwedd.

Cyn diwedd y chwarae ar y diwrnod cyntaf, cipiodd Michael Hogan ddwy wiced gyflym i adael yr ymwelwyr ar 10 am 2 wiced ar un cyfnod.

Dechreuodd pethau'n dda for Iau hefyd gyda Hogan yn cipio dwy wiced arall.

Ni chafodd Ravi Bopara ei ddewis i garfan Lloegr oedd yn wynebu Seland Newydd yn Lord's ddydd Iau, a dyna oedd problem fwyaf Morgannwg.

Mewn batiad disglair fe sgoriodd Bopara 145 cyn i Graham Wagg gipio'i wiced, ac fe ddaeth batiad chwim ac effeithiol gan Graham Napier i roi'r fantais yn glir i'r ymwelwyr.

Pencampwriaeth y Siroedd - Morgannwg v.Essex; Stadiwm Swalec, Caerdydd :-

Sgor ddiweddaraf - (amser cinio y trydydd diwrnod)

Morgannwg(batiad cyntaf) = 231

Essex (batiad cyntaf) = 345

Morgannwg(ail fatiad) = 80 am 3