Plentyn wedi ei daro gan gar

Mae plentyn yn ddifrifol wael ar ôl cael ei daro gan gar yn ardal Porthcawl.

Mae'r plentyn pump oed yn cael triniaeth yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd yr heddlu fod y plentyn mewn cyfrol difrifol iawn ond ei fod yn sefydlog.

Cafodd ei gludo yn hofrennydd yr heddlu i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r ddamwain yn Heol Fach, Gogledd Corneli, am 6.26pm ddydd Iau.

Bu trawiad arall ym Mhorthcawl nos Iau wedi i ddyn gael ei anafu yn Rest Bay.

Yn ôl yr heddlu mae'r dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi iddo golli rheolaeth o'i feic modur, Yamaha coch 125cc, am 21:36.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhywun fu'n dyst i un o'r digwyddiadau gysylltu â nhw ar 01792 456999.