Tollau Pontydd Hafren: Dim gostyngiad buan

Tollau Pontydd Hafren Image copyright BBC news grab
Image caption Mae'n costio £6.20 i fynd â char dros bontydd yr M4 ac M48 o Loegr i Gymru

Mae yna ergyd i 'r gobeithion am ostwng y tollau i groesi pontydd Hafren pan fyddan nhw'n dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus yn 2018.

Daeth hi i'r amlwg bod llywodraeth y DU wedi mynd i ddyled o tua £88 miliwn oherwydd costau ychwanegol i gynnal a chadw'r pontydd.

Dywedodd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan bod maint y ddyled yn golygu oedi pellach cyn y bydd pris y tollau'n gostwng.

Yn ôl Adran Drafnidiaeth y DU, fe allai'r dyledion gymryd dwy flynedd yn ychwanegol i'w clirio.

Dwy flynedd

Cwmni preifat sy'n gyfrifol am y pontydd ar hyn o bryd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yr wythnos yma eu bod am gymryd rheolaeth ohonyn nhw pan fyddan nhw'n dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus - er nad yw hynny wedi ei gytuno gyda llywodraeth y DU.

Ym mis Mawrth fe alwodd y Pwyllgor Materion Cymreig am ostwng y tollau pan fydd hynny'n digwydd yn 2018.

Ond yn ystod ymchwiliad y pwyllgor i gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd, fe gawson nhw wybod bod y ddyled y mae'n rhaid i'r tollau dalu amdanyn nhw wedi cynyddu i £112m erbyn diwedd Mawrth 2012 o £19m yn 2010, ac fe ofynnon nhw am eglurhad.

Nawr mae Gweinidog Trafnidiaeth San Steffan Stephen Hammond wedi cyhoeddi ffigyrau sy'n dangos bod y ddyled bellach i lawr i £88m, ac mae'n dweud y bydd yn cymryd dwy flynedd i ad-dalu hynny.

Image caption Mae tua 80,000 o gerbydau'n defnyddio pontydd yr M4 ac M48 dros yr Hafren bob dydd

Nid yw'r gost yn rhan o'r cytundeb gyda'r cwmni sy'n gweithredu'r pontydd, ac mae'n cynnwys £40m o gostau gweithredu - yn rhan o hynny mae £16m i gryfhau'r strwythur ac £8 i osod wyneb newydd ar ffordd yr M48.

Mae'r ddwy bont yn cael eu rhedeg gan gwmni Croesfannau Afon Hafren Plc ac yn cael eu defnyddio gan oddeutu 80,000 cerbyd bob dydd.

'Niweidiol i Gymru'

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, David Davies AS: "Roedd yn siom fawr i ni nad oedd y llywodraeth wedi egluro yn ystod yr ymchwiliad yn 2010 i'r tollau dros yr Hafren y gallai'r ddyled gynyddu i'r fath raddau.

"Roedd yn bryder hefyd y gallai dyled mor uchel achosi oedi wrth ostwng y tollau - rhywbeth yr ydym wedi galw am wneud yn gyson.

"Mae'r tollau yn niweidiol i economi Cymru, sy'n dibynnu ar gysylltiadau dros y ffin, ac mae sgil effeithiau eraill fel dargyfeirio traffig trwm ar hyd ffyrdd llai."

Mae'n costio £6.20 i fynd â char dros y pontydd o Loegr i Gymru, £12.40 ar gyfer faniau a bysiau bach a £18.60 ar gyfer bysiau mawr a lorïau. Nid oes rhaid talu i yrru o Gymru i Loegr.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth y DU: "Rhaid ad-dalu'r ddyled fydd yn weddill pan fydd y consesiwn preifat yn dod i ben.

"Mae hyn wedi bod yn wir ers 1992 ac mae'r ddeddfwriaeth yn glir mai dim ond ar gyfer talu costau adeiladu, cynnal a chadw a gweithredu'r pontydd y caiff arian y tollau ei ddefnyddio."

Y llynedd fe ddywedodd adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru y byddai diddymu'r tollau yn golygu cynnydd yn nifer y cerbydau fyddai'n defnyddio'r pontydd o tua 12%, neu 11,000 o gerbydau bob dydd.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud bod busnesau a theithwyr cyson yn gwario £80m y flwyddyn i groesi'r pontydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.