Wal wedi dymchwel yng nghanol tref

Mae'r gwasanaeth tân wedi ei alw ar ôl i wal ddymchwel yng nghanol tref Rhuthun ddydd Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 1:10pm wedi i'r wal ddymchwel ger gwesty Castell Rhuthun ar Ffordd y Castell.

Mae criwiau o ddiffoddwyr o Ddinbych a Rhuthun ar y safle ac yn defnyddio camera delweddu thermal i archwilio'r safle.

Er hynny daeth cadarnhad gan y Gwasanaeth Ambiwlans nad oes unrhyw un wedi cael anaf.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud bod y llwybr troed sy'n cysylltu Stryd y Castell a Cae Ddol ar gau, ac mae peirianwyr strwythurol ar y safle er mwyn ei wneud yn ddiogel.