Donaldson allan o Bencampwriaeth y Byd

Jamie Donaldson and Brett Rumford Image copyright Getty Images
Image caption Jamie Donaldson (chwith) yn llongyfarch Brett Rumford

Mae Jamie Donaldson allan o Bencampwriaeth Tyllau'r Byd ym Mwlgaria wedi iddo golli dwy gêm mewn dau ddiwrnod.

Collodd Donaldson i Gonzalo Fernandez-Castano yn ei ornest gyntaf yn rownd y grwpiau, ac yna fe gollodd i Brett Rumford o Awstralia o 5-a-3 yn yr ail gêm.

Cafodd Donaldson o Bontypridd ddechrau gwael yn erbyn Rumford gan golli'r tri thwll cyntaf.

Er iddo frwydro nôl fe gafodd Rumford ddwy bluen arall ar y 14eg a 15fed twll i agor bwlch o bum eryd gyda thri twll yn weddill.

Mae hynny'n golygu mai Rumfrod a Fernandez-Castano sy'n mynd ymlaen o'r grŵp i rownd yr 16 olaf.

Mae Rumford yn ceisio bod y trydydd dyn yn hanes Cylchdaith Ewrop i ennill tair cystadleuaeth yn olynol.

Dim ond Nick Faldo yn 1983 a'r diweddar Seve Ballesteros yn 1986 sydd wedi cyflawni'r gamp o'r blaen.

Straeon perthnasol