Dathliadau wrth agor canolfan ddŵr

Canolfan chwaraeon Porth Eirias Image copyright Ceri Thomas
Image caption Y ganolfan chwaraeon dŵr ym Mae Colwyn fydd canolbwynt y dathlu dros y penwythnos

Mi fydd canolfan chwaraeon dŵr newydd gwerth £5 miliwn o bunnoedd yn atyniad mawr yng ngogledd Cymru yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Mae'r ganolfan Porth Eirias ym Mae Colwyn yn rhan o broject i wedd newid ardal glan môr y dref gan gynnwys cynllun newydd i amddiffyn yr arfordir rhag llifogydd.

Yn ystod y penwythnos bydd dathliadau i nodi lansiad y ganolfan sydd wedi eu trefnu gan Gyngor Conwy.

Bydd gŵyl am ddim am ddau ddiwrnod ar y prom gyda chwrs rhaffau, ffair a wal ddringo ymhlith y cyfleusterau.

Nos Sadwrn ar y traeth bydd cerddorion yn perfformio gan gynnwys y rapiwr Baby Blue, Lilygreen, Ed Drewett a Maguire.

Yn y ganolfan ddŵr bydd pobl yn arddangos syrffio gyda barcud a syrffio gwynt i'r cyhoedd.

Mae'r project yn cael ei weld fel ffordd i adfywio'r dref ac yn hwb i'r economi leol.

Dywedodd Carwyn Jones: "Hoffwn ddymuno pob hwyl i Borth Eirias wrth iddo agor ei ddrysau y penwythnos hwn.

"Disgwylir iddo fod yn atyniad mawr ar hyd arfordir y Gogledd a bydd y dref a'r ardal ehangach yn elwa ohono."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.