Bocsio: Tri Chymro yng ngharfan Prydain

Sean McGoldrick Image copyright Getty Images
Image caption Enillodd Sean McGoldrick fedal aur i Gymru yn Gemau'r Gymanwlad yn 2010

Mae tri Chymro wedi eu cynnwys yng ngharfan Prydain ar gyfer Pencampwriaeth Bocsio Amatur Ewrop yn Belarus.

Er hynny does dim lle yn y garfan i Fred Evans, a enillodd fedal arian yn y Gemau Olympaidd yn Llundain y llynedd.

Mae Evans, o Abertawe, ynghyd ag Anthony Joshua yn ystyried troi'n broffesiynol, ac felly wedi cael eu gadael allan o'r garfan.

Mae Anthony Selby, oedd hefyd yn aelod o Team GB yn Llundain, yn ceisio bod y bocsiwr cyntaf o Brydain i ddal ei afael ar deitl pencampwr Ewrop.

Gan fod nifer fu'n cystadlu yn Llundain eisoes wedi troi'n broffesiynol, mae hynny'n rhoi cyfle i nifer o enwau newydd i ddod i mewn i'r garfan.

Bydd dau Gymro arall felly'n cystadlu yn Belarus, sef Sean McGoldrick o Gasnewydd - a enillodd fedal aur yn Gemau'r Gymanwlad yn Delhi yn 2010 - a Joe Cordina o Gaerdydd.

Bydd y bencampwriaeth - sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd - yn cael ei chynnal eleni ym Minsk ar Fehefin 1-8, gyda Selby'n amddiffyn y teitl a enillodd yn 2011 yn Nhwrci.

Y garfan yn llawn :

Pwysau Is-blu - Jack Bateson (Lloegr);

Pwysau Plu - Charlie Edwards (Lloegr), Andrew Selby (Cymru);

Pwysau Bantam - Gamal Yafai (Lloegr), Sean McGoldrick (Cymru);

Pwysau Ysgafn - Joe Cordina (Cymru);

Pwysau Is-welter - Josh Taylor (Yr Alban), Sam Maxwell (Lloegr);

Pwysau Canol - Aston Brown (Yr Alban), Antony Fowler (Lloegr);

Pwysau Is-drwm - Lawrence Osueke (Lloegr);

Pwysau Trwm - Warren Baister (Lloegr);

Pwysau Uwch-drwm - Joe Joyce (Lloegr).