Heddlu'n chwilio am leidr siop bwcis

Car Heddlu
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw ychydig wedi 2pm

Mae Heddlu'r Gogledd yn chwilio am ddyn oherwydd lladrad mewn siop bwcis ym Mhenygroes, Gwynedd.

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig wedi 2:00pm ddydd Gwener yn dilyn adroddiad bod dyn wedi mynd i'r siop yn cario rhywbeth yn debyg i fat pêl-fâs.

Mynnodd y dyn gael arian gan staff y siop ar Stryd y Wyddfa.

Chafodd neb ei anafu ac fe redodd y dyn oddi yno.

Cafodd ei ddisgrifio fel dyn tua 30 oed gyda gwallt byr ac roedd yn gwisgo "hoody" llwyd.

Mae'r heddlu yn apelio am gymorth gan y cyhoedd ac yn gofyn i bobl â gwybodaeth eu ffonio ar 101.

Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.