Morgannwg yn brwydro'n ôl

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Mae batwyr Morgannwg yn brwydro'n ôl ar drydydd diwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Essex yng Nghaerdydd.

Dechreuodd Essex y diwrnod gyda mantais o 112, a dim ond dau rediad gafodd eu hychwanegu cyn iddyn nhw golli eu wiced olaf fore Gwener.

Ond yna cafodd y tîm cartref ddechrau gwael wrth i ben Wright golli ei wiced heb sgorio i ail belen yr ail fatiad.

Am yr eildro yn y gêm roedd Morgannwg yn ddiolchgar i Stewart Walters. Yn dilyn ei 67 yn y batiad cyntaf, sgoriodd Walters 98 yn yr ail cyn cael ei ddal gan i wicedwr James Foster o fowlio Tim Phillips.

Daeth cyfraniadau teilwng o 42 gan Will Bragg a Marcus North, ond daeth cyfraniad mwyaf allweddol y dydd efallai tua diwedd y dydd.

Daeth capten Morgannwg Mark Wallace a Graham Wagg at ei gilydd gyda'r sgôr ar 234, ond fe ychwanegodd y ddau 69 o rediadau cyn i'r chwarae ddod i ben i roi mantais i Forgannwg o 189 gyda phedair wiced yn weddill yn yr ail fatiad.

Fe fydd angen i Wallace a Bragg ychwanegu at y cyfanswm yn gyflym ar y diwrnod olaf ddydd Sadwrn er mwyn rhoi cyfle i'r bowlwyr fynd am y fuddugoliaeth, ond mae'n edrych yn fwy tebygol bellach mai gêm gyfartal fydd hi.

Pencampwriaeth y Siroedd - Morgannwg v.Essex; Stadiwm Swalec, Caerdydd :-

Sgor ddiweddaraf - (diwedd y trydydd diwrnod)

Morgannwg(batiad cyntaf) = 231

Essex (batiad cyntaf) = 345

Morgannwg(ail fatiad) = 303 am 6