Dathlu gwaith llenyddol rhyngwladol

Jon Gower
Image caption Jon Gower oedd un o'r awduron o Gymru oedd yn cymryd rhan yn yr wŷl

Cafodd gŵyl i ddathlu gweithiau awduron a beirdd rhyngwladol a thalentau yma ym Mhrydain ei chynnal yng Nghaerdydd yn ystod y penwythnos.

Roedd 18 o awduron, beirdd, cyfieithwyr a beirniaid yn dod at ei gilydd i drafod llenyddiaeth sydd wedi ei chyfieithu ac i ddarllen darnau o waith yn yr wŷl Fiction Fiesta 2013.

Ymhlith y rhai oedd yn cymryd roedd Angharad Price, Jon Gower a Patrick McGuinness.

Roedd awduron megis Andrés Neuman a Tiffany Atkinson sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol yno ac roedd y trefnwyr wedi gwahodd Inés Garland a Eduardo Halfon i fod yn rhan o'r sesiynau.

Yr awdur a'r academydd Dr Richard Gwyn o Brifysgol Caerdydd yw curadur yr ŵyl.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'n ddigwyddiad blynyddol a bod angen tynnu mwy o sylw at weithiau sydd wedi eu cyfieithu.

"Y syniad ar gyfer yr ŵyl yw dod â chriw o ysgrifenwyr o wahanol leoliadau sydd yn frwd iawn dros eu hiaith a'r grefft o ysgrifennu - a gweld beth ddigwyddith."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.