Trên yn taro dyn ger Wrecsam

Mae dyn oedrannus yn yr ysbyty wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad â thrên yn Wrecsam.

Cafwyd hyd i'r dyn rhyw hanner milltir o orsaf rheilffordd Gwersyllt ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle am tua 11:40am ddydd Sadwrn.

Fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam gydag anafiadau difrifol sydd yn peryglu ei fywyd.

Hyd yma dyw'r awdurdodau ddim yn gwybod sut y daeth y dyn i fod ar y lein.