Morgannwg yn colli eto

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Mae Morgannwg wedi colli eto ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Essex yn Stadiwm Swalec.

Wedi batiad cyntaf siomedig o 231 i'r tîm cartref, fe sgoriodd yr ymwelwyr 345 yn eu batiad cyntaf nhw.

Yna ddydd Gwener a fore Sadwrn, daeth ymdrech dda gan Morgannwg yn eu hail fatiad gan gynnwys 101 gan y capten Mark Wallace a 98 gan Stewart Walters i osod nod teilwng i Essex o 275 am fuddugoliaeth.

Ond roedd bowlio Morgannwg yn yr ail fatiad yn siomedig.

Yn dilyn partneriaeth o 143 am y wiced gyntaf, roedd Essex yn ffefrynnau i gyrraedd y nod, ac er i Forgannwg gipio pum wiced i sicrhau diweddglo dramatig, fe lwyddodd yr ymwelwyr i gyrraedd y targed cyn diwedd y chwarae.

Pencampwriaeth y Siroedd - Morgannwg v.Essex; Stadiwm Swalec, Caerdydd :-

Sgôr terfynol

Morgannwg(batiad cyntaf) = 231

Essex (batiad cyntaf) = 345

Morgannwg(ail fatiad) = 388

Essex (ail fatiad) = 275 am 5 wiced

Essex yn fuddugol o bum wiced.