Port Talbot 0-1 Y Bala

Image copyright Not Specified

Port Talbot 0-1 Y Bala

Y Bala sydd wedi cipio'r lle olaf i gynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.

Yn rownd derfynol y gemau ail gyfle, roedd Port Talbot yn croesawu'r Bala i Stadiwm Genquip wedi iddyn nhw drechu Caerfyrddin yn y rownd gynderfynol.

Enillodd y Bala oddi cartref yn erbyn Bangor yn y rownd gynderfynol arall.

Yn ôl y disgwyl roedd hi'n gêm agos. Wedi hanner cyntaf di-sgôr roedd y ddau dîm yn teimlo'r nerfau ar achlysur mor bwysig.

Roedd un gôl yn ddigon i'w setlo hi, a John Irving a'i cafodd hi ddau funud cyn y diwedd i sicrhau lle'r Bala yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Pedwar tîm

Bydd pedwar tîm yn cynrychioli Cymru yn Ewrop y tymor nesaf felly :

  • Y Seintiau Newydd - Pencampwyr Uwchgynghrair Cymru yn Nghynghrair y Pencampwyr;
  • Airbus UK Brychdyn - 2il yn yr Uwchgynghrair yng Nghynghrair Europa;
  • Y Bala - Enillwyr gemau ail gyfle'r Uwchgynghrair yng Nghynghrair Europa;
  • Prestatyn - Enillwyr Cwpan Cymru yng Nghynghrair Europa.

Bydd Abertawe hefyd yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf gan eu bod nhw wedi ennill Cwpan Capital One, ond gan mai un o gystadlaethau Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yw honno, cynrychioli Lloegr fydd yr Elyrch.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.