April Jones: Mwy o gyfweliadau

April Jones Image copyright PA
Image caption Mae Mark Bridger wedi dweud ei fod wedi taro April yn ddamweiniol gyda'i gar Land Rover

Bydd mwy o fanylion o gyfweliadau'r heddlu gyda'r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones yn cael eu clywed gan y rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun.

Mae Mark Bridger, 47 oed o Geinws ger Machynlleth, yn gwadu cyhuddiadau o gipio a llofruddio'r ferch bump oed, ac yn gwadu cyhuddiad o fwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae Mr Bridger wedi dweud mewn un cyfweliad ei fod wedi taro April yn ddamweiniol gyda'i gar ac wedi mynd i banig ac nad oedd wedi croesi ei feddwl i ffonio 999.

Dywedodd nad oedd yn cofio beth a wnaeth gyda chorff y ferch fach gan ei fod wedi meddwi.

Mae gwyddonydd fforensig wnaeth archwilio ei gerbyd wedi dweud nad oedd tystiolaeth o wrthdrawiad o unrhyw fath gydag April.

Ddydd Gwener clywodd y rheithgor fod Mr Bridger wedi clywed mewn un cyfweliad bod tyst wedi gweld dyn gyda gwallt tywyll yn mynd at April ychydig cyn iddi ddiflannu.

Dywedodd yntau wrth yr heddlu bod hyn "yn anwiredd llwyr".

Ddydd Llun mae disgwyl i'r rheithgor glywed gweddill ei gyfweliadau gyda'r heddlu.

Mae'r achos yn parhau.

Straeon perthnasol