Caerdydd yn Bencampwyr Merched Cymru

Mae tîm pêl-droed Merched Caerdydd wedi sicrhau pencampwriaeth Uwchgynghrair Merched Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul.

Merched Wrecsam oedd yr ymwelwyr, ond roedd y tîm cartref ar y blaen o 3-0 erbyn yr egwyl diolch i goliau gan Rachel Rowe a dwy gan Danielle Broadhurst.

Sicrhaodd Wrecsam y byddai'n ddiweddglo nerfus i Gaerdydd yn yr ail hanner.

Daeth dwy gôl i'r ymwelwyr gan Lowri Edwards wedi 76 munud a Katie Edwards wedi 82 bob ochr i un arall i Gaerdydd gan Alicia Davies.

Ond fe ychwanegodd Davies un arall i Gaerdydd wedi 88 munud i sicrhau mai Caerdydd sy'n gorffen y tymor ar frig y tabl a chael eu coroni'n bencampwyr Merched Cymru 2013.