Heddlu'n chwilio swyddfa AS

Nigel Evans
Image caption Mae Nigel Evans yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn

Mae'r heddlu wedi chwilio swyddfa Dirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, Nigel Evans AS.

Yn ôl llefarydd Tŷ'r Cyffredin, John Bercow, fe gawson nhw warant i wneud hynny gan Lys y Goron Preston.

Dywedodd Mr Bercow ei fod wedi ystyried y warant yn bersonol ac wedi gwrando ar gyngor y twrnai cyffredinol cyn caniatáu'r ymchwiliad.

Cafodd y swyddfa ei chwilio ar ddydd Sul.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i honiadau fod Mr Evans, gafodd ei eni yn Abertawe, wedi treisio dyn ac wedi ymosod yn rhywiol ar un arall.

Mae'r Aelod Seneddol dros Ribble Valley wedi gwadu'r honiadau gan ddweud eu bod nhw'n "gwbl anwir".

Straeon perthnasol