Achub dau o'r môr oedd mewn caiac

Mae dau berson mewn caiac wedi cael eu hachub o'r môr ger Llandudno ac un yn yr ysbyty yn dioddef o hypothermia.

Cafodd yr RNLI ei galw allan i fae Penrhyn am 7.30 nos Lun.

Roedd person lleol wedi ei gweld nhw yn y dŵr yn gweiddi am help ac wedi rhoi gwybod i wylwyr y glannau.

Mae'r ddau unigolyn yn dod o fae Penrhyn.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.