Dyn wedi ei ladd mewn damwain ffordd ger Pontypridd

Heddlu De Cymru
Image caption Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar ôl i yrrwr gael ei ladd mewn damwain ffordd

Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i ddyn gael ei ladd mewn damwain ffordd nos Lun.

Fe darodd car Chevrolet Epica a lori nwyddau ASDA yn erbyn ei gilydd ar yr A4058 rhwng Pontypridd a'r Porth ger pentre Trehafod am 10pm.

Bu farw gyrrwr y car yn y fan a'r lle. Dyw ei enw ddim wedi cael ei gyhoeddi hyd yma.

Cafodd gyrrwr y lori driniaeth yn yr ysbyty am sioc cyn mynd adref.

Mae'r heddlu am siarad ag unrhyw un welodd un o'r ddau gerbyd cyn y ddamwain neu unrhyw un stopiodd i helpu'r gyrwyr.

Fe all llygad-dystion ffonio'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.