Bradley'n arwain y daith

Bradley Davies
Bradley Davies fydd yn arwain Cymru ar daith yr haf i Japan

Bradley Davies, clo'r Gleision, fydd yn arwain Cymru ar daith haf y tîm rygbi cenedlaethol i Japan.

Mae'n gyfle i nifer gael profiad chwarae ar lefel gemau prawf a herio am le cyson yn nhîm Cymru, meddai prif hyfforddwr y daith, Robin McBryde.

Bydd naw chwaraewyr sydd heb ennill cap yn y garfan, gan gynnwys dau o'r Gweilch, Dafydd Howells a Dan Baker, a maswr y Gleision, Rhys Patchell.

Ymhlith y dewis yn y rheng flaen mae tri chwaraeodd ran yn llwyddiant Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad, Ryan Bevington (Gweilch), Scott Andrews (Gleision) a Craig Mitchell (Caerwysg)

Capiau cynta'

Mae 'na lefydd hefyd i ddau brop arall - Rhys Gill o'r Saraseniaid a Rhodri Jones, aelod allwedol o reng flaen y Scarlets.

Bydd yna gapiau cynta' i'r ddau fachwr Emyr Phillips (Scarlets) a Scott Baldwin (Gweilch).

Fe fydd bod yn gapten yn hwb fawr i Bradley Davies wedi iddo fethu pencampwriaeth y chwe gwlad drwy anaf.

Y tri chlo arall yn y garfan yw Andrew Coombs (Dreigiau), Lou Reed (Gleision) a James King (Gweilch).

Yn yr ail reng bydd yna gystadleuaeth frwd am lefydd yn y tîm prawf rhwng Dan Baker, 20 oed, wnaeth gymaint o argraff yn nhîm Abertawe yn Uwch Gynghrair Principality a thri mwy profiadol, Aaron Shingler a Rob McCusker o'r Scarlets a chapten y Gleision, Andries Pretorius.

Lloyd Williams (Gleision) a Tavis Knoyle (Scarlets) fydd y ddau fewnwr a bydd y gsytadleuaeth am y crys Rhif 10 rhwng Dan Biggar (Gweilch) a Patchell.

Dwy gêm brawf

Yn y cefn bydd triawd y Gweilch Ashley Beck, Jonathan Spratt a Howells sy'n 18 oed.

Bydd Owen Williams a Harry Robinson o'r Gleision, Liam Williams (Scarlets), Tom Prydie (Dreigiau) a Steven Shingler (Gwyddelod yn Llundain) yn cadw cwmni iddyn nhw.

Bydd Cymru yn chwarae dwy gêm brawf yn erbyn Japan sy'n cael ei hyfforddi gan Eddie Jones.

Bydd y gêm gyntaf yn Osaka ar Fehefin 8 a'r ail yn Tokyo ar Fehefin 15.

Dywedodd y prif hyfforddwr: "Maen nhw wedi gweithio yn galed ac wedi ymateb fel y gofynnon ni iddyn nhw ei wneud.

"Mae pob aelod o'r garfan hyfforddi wedi dangos ei fod yn haeddu lle ar y daith ac mae hynny wedi gwneud ein gwaith ni fel dewiswyr yn anodd."

Carfan Cymru

Blaenwyr: Ryan Bevington (Gweilch), Rhys Gill (Saraseniaid), Emyr Phillips (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Scott Andrews (Gleision), Craig Mitchell (Caerwysg), Rhodri Jones (Scarlets), Bradley Davies (Gleision, capten), Lou Reed (Gleision), Andrew Coombs (Dreigiau), James King (Gweilch), Aaron Shingler (Scarlets), Dan Baker (Gweilch), Rob McCusker (Scarlets), Andries Pretorius (Gleision).

Cefnwyr: Lloyd Williams (Gleision), Tavis Knoyle (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Patchell (Gleision), Ashley Beck (Gweilch), Owen Williams (Gleision), Jonathan Spratt (Gweilch), Dafydd Howells (Gweilch), Liam Williams (Scarlets), Harry Robinson (Gleision), Tom Prydie (Dreigiau), Steven Shingler (Gwyddelod yn Llundain).