Tony Pulis yn gadael Stoke

Tony Pulis Image copyright Getty Images
Image caption Y Cymro Tony Pulis yn rhoi'r gorau i'r swydd yn Stoke

Mae'r Cymro Tony Pulis yn rhoi'r gorau yn Stoke City ar ôl saith mlynedd wrth y llyw yn Stadiwm Britannia.

Daeth y cyhoeddiad ar ôl i'r rheolwr 55 oed drafod dyfodol y clwb gyda'r cadeirydd Peter Coates fore Mawrth.

Er ei fod wedi llywio'r clwb i'r Uwch Gynghrair yn 2008 ac ymddangosiad cynta'r clwb yn rownd derfynol Cwpan yr FA yn 2011, mae 'na aniddigrwydd wedi bod ynglŷn ag arddull y tîm.

Newid cyfeiriad

Mae Pulis a Coates yn ffrindiau ond roedd y cyfarwyddwyr yn credu bod angen newid cyfeiriad.

Roedd wedi bod yn rheolwr Stoke am dair blynedd rhwng 2002 a 2005.

Ers iddo ddychwelyd i'r clwb yn 2006 enillodd 122 o gemau, colli 113 a chael 98 o gemau cyfartal.