Geiriadur newydd i dafodiaith y 'wês, wês'.

Arddangosfa ym mhabell y Cwtsh Cymraeg o eiriau tafodieithol Sir Benfro wedi eu creu gyda defnyddiau wedi eu hailgychu.
Image caption Mae arddangosfa o weithiau celf yn dangos geirfa Sir Benfro ar y maes

Mae awdur geiriadur newydd o eiriau tafodieithol Sir Benfro yn dweud ei fod wedi ysgrifennu'r gyfrol er mwyn rhoi'r dafodiaith ar "gof a chadw" gan fod rhai o eiriau'r ardal wedi eu colli yn barod.

Roedd Wyn Owens yn lansio Rhint y Gelaets a'r Grug: Tafodiaith Shir Benfro ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 ddydd Iau.

Dywedodd ei bod eisoes yn rhy hwyr i gofnodi "holl gyfoeth" iaith y sir fel yr oedd yn cael ei siarad gan genhedlaeth ei famgu.

"Mae llawer o gyfoeth geirfaol wedi mynd i ddifancoll mae'n sicr ond mae'r casgliad hwn yn rhoi ar gof a chadw y dafodiaith fel y'i clywais ac y'i clywaf hi yn cael ei siarad," meddai yn ei gyflwyniad.

Ei nod wrth ysgrifennu meddai ydy "cyflwyno'r iaith leol i bwy bynnag sydd â diddordeb mewn tafodieithoedd" ac "agor peth o'r drws i'r dysgwyr, fel y caent hwythau flas ar geisio siarad iaith naturiol, bob dydd y rhan hon o'r wlad."

Dyfyniad o'r gerdd Preseli gan un o feirdd mawr yr ardal, Waldo Williams, yw'r teitl.

Mae'n enwi planhigion sy'n tyfu ar y tir isel ac ar y mynyddoedd, sef blodyn melyn y gellhesg (geletsh) a'r grug (gwrug).

Ganwyd Waldo yn Hwlffordd ac mae geiriau a thirwedd Sir Benfro yn amlwg yn ei gerddi.

Image caption Ann a Cerwyn Davies: "Mae'r dafodiaith yn rhan o'n hunaniaeth."

'Wês, wês'

Mae tafodiaith y 'wês wês' - fel mae iaith yr ardal yn cael ei galw weithiau - i'w chlywed a'i gweld ar faes yr ŵyl yng Nghilwendeg.

Mae arddangosfa gelf yng nghanolfan y dysgwyr ar faes yr eisteddfod yn dangos rhai o ddywediadau a geiriau'r ardal.

Ym mhabell y Cwtsh Cymraeg mae llyfrynnau bach a darnau celf yn arddangos y dafodiaith wedi eu creu gan Hedydd Hughes sy'n swyddog treftadaeth gyda Menter Iaith Sir Benfro.

Fe gawson nhw eu creu allan o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu.

Mae gwaith brodwaith yn cyflwyno llinellau o faddoniaeth Waldo Williams hefyd yn cael eu dangos yn y babell.

Dau oedd yn lansiad y geiriadur oedd Ann a Cerwyn Davies o Fynachlog-ddu.

"Rwy'n credu'n gryf mewn cynnal ein tafodiaith, sydd yn newid o ardal i ardal," meddai Mrs Davies, sydd yn wreiddiol o Eglwyswrw.

Image caption Mae dywediadau lleol wedi eu paentio ar gerrig glan môr.

"Dydw i ddim yn meddwl bod y dafodiaith ar drai. Rydw i'n teimlo bod plant sy'n symud yma ac yn dysgu'r iaith yn dweud geiriau fel 'wêr' (oer) a 'wês' (oes) yn naturiol, ond mae'n bwysig bod athrawon yn ymwybodol ohono ac yn ei hybu," meddai Mrs Davies sydd yn athrawes ei hun.

Er hynny gallai feddwl am rai geiriau na fyddai ei phlant yn eu defnyddio bellach: "'Dadrish' (datrys) fyddai mam Cerwyn yn ei ddefnyddio am gribo gwallt ond 'sa i'n credu y byddai ein tair merch ni yn ei ddefnyddio," meddai.

Dywedodd Mr Davies: "Pan wnaethon ni gyfarfod gynta' fe fydden i'n dweud 'trochi' am gael eich traed neu eich dillad yn fudr, ond doedd Ann ddim yn defnyddio'r gair gan mai 'dwyno' fyddai hi'n ei ddweud - sy'n dod o 'difwyno'."

"Ond y peth pwysicaf yw cadw'r iaith yn fyw," ychwanegodd. "Dyna mae'r gair tafodiaith yn ei feddwl - ar dafod leferydd."

Image caption Roedd Wyn Owens yn arwyddo copïau o'i eiriadur newydd ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau

"Rhint i geletsh a'r gwrug fel 'ny 'te, cewch sgap ar Gwmrâg 'Nachlog-ddu a'r gwmdogeth in i casglad hwn sy'n cisho creu pictwr o'r ardal a'i phobol drwy'u geire a'u ffor nwy o weud pethe,"* meddai Wyn Owens yn ei dafodiaith ei hun yn ei gyflwyniad.Yn ei gyflwyniad i'r gyfrol mae Lyn Lewis Dafis yn tynnu sylw at rai o nodweddion iaith y 'wês, wês'.

Mae hefyd yn rhestru rhai o'r geiriau mwyaf cyfarwydd e.e. 'rhocesi' (merched) a 'perci' (caeau) a 'pentigili' (bob cam, yr holl ffordd).

Mae Wyn Owens yn artist a bardd sy'n cystadlu'n rheolaidd ar Dalwrn y Beirdd ac wedi ei eni a'i fagu ym Mynachlog-ddu.

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.