Diwrnod addawol i Forgannwg

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Mae Morgannwg wedi sgorio 442 am 9 wiced yn eu batiad cynta' ym Mhencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerlŷr.

Batiad cynta' eu gwrthwynebwyr wedyn oedd 122 am 9 wiced.

Dechreuodd Morgannwg ar 256 am 5 wiced wedi i Marcus North a Murray Goodwin gyrraedd eu 50au y diwrnod cyntaf ddydd Mawrth.

Dim ond un wiced yr oedd Morgannwg wedi colli ar yr ail fore wrth i'r capten Mark Wallace gael ei ddal oddi ar fowlio Oliver Freckingham am 16.

Yna fe ymunodd Graham Wagg â Jim Allenby, gan greu partneriaeth lewyrchus.

Pencampwriaeth y Siroedd - Sir Gaerlŷr v Morgannwg:

Sgôr ddiweddaraf:-

Morgannwg (batiad cynta') 442 am 9 wiced - Allenby 104 h.f.a., Wagg 51 h.f.a., North 68, Goodwin 57.

Sir Gaerlŷr (batiad cynta') 122 am 9 wiced