Morgannwg mewn sefyllfa gref

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Mae Morgannwg wedi cael ail ddiwrnod gwych yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerlŷr.

Dechreuodd Morgannwg ar 256 am 5 wiced wedi i Marcus North a Murray Goodwin gyrraedd eu 50au ar y diwrnod cyntaf ddydd Mawrth.

Aeth Morgannwg ymlaen i 'sgubo bowlyr y tîm cartref o'r neilltu gyda pherfformiadau grymus gan Jim Allenby a Graham Wagg.

Penderfynnodd y capten Mark Wallace ddod â'r batiad i ben gyda'r sgôr ar 442 am 9 wiced. Erbyn hynny roedd Wagg wedi mynd am 58 ond roedd Allenby'n dal yno ar 138 heb fod allan.

Wrth ymateb i'r sgôr ardderchog yna, fe ddymchwelodd wicedi'r tîm cartref.

Cipiodd Michael Hogan a John Glover dair wiced yr un gyda Wagg a Michael Reed yn cael un yr un hefyd.

Am 6:00pm ddydd Mercher, roedd Sir Gaerlŷr wedi cyrraedd 126 am 9 wiced, ac yn wynebu'r posibilrwydd cryf o orfod batio eto yn syth fore Iau.

Mae gan Forgannwg fantais o 316 gydag un wiced yn weddill ym matiad cyntaf Sir Gaerlŷr.

Pencampwriaeth y Siroedd - Sir Gaerlŷr v.Morgannwg; Caerlŷr:-

Sgôr ddiweddaraf (6:00pm ar yr ail ddiwrnod):-

Morgannwg(batiad cyntaf) = 442 am 9 wiced - Allenby 138 h.f.a., Wagg 58, North 68, Goodwin 57.

Sir Gaerlŷr (batiad cyntaf) = 126 am 9 wiced