Cyhoeddi enw dyn gafodd ei ladd ger Trehafod

Heddlu De Cymru
Image caption Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar ôl i yrrwr gael ei ladd mewn damwain ffordd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn gafodd ei ladd mewn damwain ffordd nos Lun.

Fe darodd car Chevrolet Epica a lori nwyddau ASDA yn erbyn ei gilydd ar yr A4058 rhwng Pontypridd a'r Porth ger pentre Trehafod am 10pm.

Bu farw gyrrwr y car, Steven Cartwright, yn y fan a'r lle.

Roedd y dyn 58 oed o Paisley, Yr Alban, yn ymweld â'i deulu ddywedodd: "Roedd yn fab, brawd, tad ac ewyrth cariadus.

"Ni all geiriau gyfleu faint yr oedd pawb yn ei garu.

"Steven, fe fyddwn yn dy garu di am byth."

Cafodd gyrrwr y lori driniaeth yn yr ysbyty am sioc cyn mynd adref.

Dylai llygaid-dystion ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.