Ad-drefnu ysgolion: Y cam nesaf

  • 23 Mai 2013
Ysgol
Roedd y cabinet yn ystyried a oedden nhw am gefnogi'r cynlluniau mewn egwyddor

Mae cabinet Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd ymghynghoriad yn cael ei gynnal oherwydd cynlluniau i gau dwy ysgol gynradd a chweched dosbarth yn yr ardal.

Cafodd y cynlluniau eu trafod mewn cyfarfod yn gynharach.

Y ddwy ysgol gynradd sy'n wynebu cael eu cau yw Ysgol Tregaron ac Ysgol Llanddewibrefi.

Os bydd y cynllun yn cael ei weithredu bydd y disgyblion yn cael eu symud i safle Ysgol Uwchradd Tregaron ac fe fyddai'r ysgol honno wedyn yn colli ei chweched dosbarth.

Dywedodd y cyngor nad oedd y sefyllfa bresennol yn gynaliadwy ac y byddai ysgol anferth ar gyfer plant rhwng tair ac 16 oed yn Nhregaron yn fwy addas.

Mae'r cyngor wedi dweud bod costau a llefydd gwag wedi golygu ail-ystyried eu polisi addysg.

Yn ôl adroddiad cabinet, roedd "diffygion sylweddol" ynglŷn â pha mor addas yw ysgolion cynradd Tregaron a Llanddewibrefi.

Adroddiad

Mae'r adroddiad hefyd wedi dweud: "Mae'r cyngor sir wedi bod yn ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer y dyfodol a dylid ystyried creu ysgol 3-16 oed ar safle ysgol uwchradd bresennol (yn Nhregaron)."

"Mae angen mwy o ymchwil er mwyn gweld os yw hyn yn ymarferol ac yn gynaliadwy.

"Yn ystod 2012-13 roedd y gost o ddarparu cyrsiau ôl-16 yn Ysgol Uwchradd Tregaron yn llawer uwch na'r cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cyrsiau hyn."

'Ergyd'

Roedd y cynghorydd sy'n gyfrifol am addysg ar gabinet Cyngor Ceredigion yn siarad ar y Post Prynhawn.

Dywedodd Hag Harris ei fod yn cydnabod y gallai penderfyniad y cyngor fod yn "ergyd" i rai, ond mynnodd bod newidiadau'n anorfod.

"O safbwynt Tregaron mae'r nifer sy'n bwriadu mynd i ddysgu yn 6ed dosbarth yn disgyn a does dim digon o ddysgwyr i gynnal nifer y pynciau - o dan fesur Llywodraeth Cymru rhaid dysgu 30 cwrs a phump galwedigaethol," meddai Mr Harris.

"Mae'r mwyafrif o ddosbarthiadau yn Nhregaron yn denu llai na 10, lot llai na 10 disgybl. Mae hyn yn costio rhywbeth rhwng chwarter miliwn a phedwar can mil."