Siwrne olaf i fad achub sydd wedi bod wrthi ers 25 mlynedd

Y Robert and Violet a'r Kiwi Image copyright RNLI
Image caption Mae'r bad Robert and Violet yn mynd i gael ei ddefnyddio i achub bywydau yn Iwerddon.

Mi aeth bad achub hynaf Prydain ar ei thaith olaf yng ngogledd Cymru ddydd Gwener.

Mae Robert & Violet wedi bod yn achub pobl o arfordir Ynys Môn ers chwarter canrif a daeth yr amser i fad modern ei ddisodli.

Ond fe fydd y bad yn dal i gael ei defnyddio gan wylwyr y glannau yn Iwerddon.

Mae dau o'r hen griw yn mynd i fod yn y digwyddiad ym mhentref Moelfre er mwyn dweud ffarwel sef yr ail lywiwr Tony Dennis a'r peiriannydd cynorthwyol John Payne.

Roedden nhw ar ei bwrdd hi wrth iddi hwylio o Poole yn Dorset i Sir Fôn a hynny 25 mlynedd yn ôl.

Hanes

Fe ddaeth y bad i'r pentref yn 1988 gyda'r dechnoleg fwyaf modern ar y pryd. Roedd hi'n costio £532,057 ac fe gafodd y swm ei rhoi gan roddwr anhysbys.

Dros y blynyddoedd mae hi wedi bod ar 392 o deithiau gan fynd i nôl 419 o bobl oedd mewn trafferthion ac achub bywydau 92 unigolyn.

Mae gwirfoddolwyr wedi cael hyfforddiant er mwyn defnyddio'r bad achub newydd erbyn hyn.

Image copyright RNLI
Image caption Mae'r bad achub newydd yn gyflymach

Tristwch

Wrth gydnabod ei bod hi'n drist bod Robert & Violet yn gadael Moelfre, mae'r Rheolwr Rod Pace yn dweud bod hi'n bwysig edrych i'r dyfodol:

"Fe fydd hi'n hyfryd i weld aelodau o'r hen griw sydd wedi ymddeol eto ac mi fydd e yn brofiad emosiynol i ni gyd sydd wedi ymwneud gyda hi am gyfnod mor hir.

"Rydyn ni yn gobeithio'r gorau iddi hi a'r criw o wirfoddolwyr newydd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.