ASE UKIP ddim yn sefyll tro nesa

John Bufton
Image caption Mae John Bufton wedi dweud na fydd yn sefyll y tro nesaf am resymau personol

Fydd Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP ddim yn sefyll yn etholiadau Ewrop y flwyddyn nesaf.

Mae John Bufton yn dweud iddo wneud y penderfyniad am resymau personol.

Dywed ef fod hyn yn gyfle i rywun newydd geisio am y sedd.

Cafodd y gwleidydd o Lanidloes ei ethol yn 2009. Ef oedd yr ASE Cymreig cyntaf i gael ei ddewis o UKIP.

Dywedodd John Bufton fod hi yn gyfnod cyffrous i'r blaid wedi iddi ennill tir yn yr etholiadau lleol yn Lloegr yn ddiweddar.

Yn etholiad Ynys Môn ni chafodd yr un cynghorydd UKIP ei ethol ond roedd canran ei phleidlais un y cant yn fwy na'r Ceidwadwyr.

Dywedodd John Bufton: "Roeddwn wrth fy modd yn cael fy ethol fel ASE cyntaf UKIP yng Nghymru yn ôl yn 2009 ac, ers hynny, rwyf wedi ceisio rhoi popeth i'r rôl hyd eithaf fy ngallu.

"Mae wedi bod yn anrhydedd mawr i gynrychioli pobl Cymru yn y Senedd Ewropeaidd a bu'r pedair blynedd ddiwethaf yn bleser ac yn her.

"Mae enwebiadau ar agor ar hyn o bryd ar gyfer darpar ymgeiswyr UKIP yng Nghymru ar gyfer etholiadau Ewropeaidd y flwyddyn nesaf ac, wedi ystyried yn ddwys, rwyf bellach yn teimlo bod hi'n amser i mi gamu o'r neilltu er mwyn rhoi'r cyfle i ymgeisydd newydd fentro.

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i UKIP, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y blaid yn parhau i dyfu a ffynnu".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.