Carcharu dyn am 12 mlynedd

Thomas Sutton Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Thomas Sutton yn 20 oed

Mae dyn 22 oed laddodd ddyn dieithr 20 oed oedd wedi tarfu arno wedi ei garcharu am 12 mlynedd.

Ym mis Mawrth yn Llys y Goron Caerdydd cafwyd Stuart Worvell yn ddieuog o lofruddio'r dyn ym Maesteg.

Ond fe'i cafwyd yn euog o ddynladdiad Thomas Sutton gafodd ei drywanu naw gwaith.

Clywodd y llys fod y diffynnydd yn gwrando ar gerddoriaeth yn y bath pan glywodd rywun yn curo drws y ffrynt.

Roedd Thomas Sutton yn meddwl bod parti yn y tŷ ond pan agorodd y diffynnydd y drws trywanodd Mr Sutton naw gwaith â chyllell gegin.

Yn y llys honnodd y diffynnydd ei fod wedi ceisio amddifyn ei hun am fod y dyn o'r Caerau a ffrind wedi ceisio ei fwrw â darnau o bren.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.