Tesco: Dim diswyddo gorfodol

Tesco
Image caption Dywed Tesco na fydd y ganolfan dosbarthu ym Magwyr yn cael ei chau.

Fe fydd 150 o swyddi'n diflannu o ganolfan ddosbarthu archfarchnad Tesco ym Magwyr, Sir Fynwy, ond dywedodd y cwmni na fyddai unrhyw ddiswyddo gorfodol.

Mae cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod yn golygu bod rhai'n derbyn diswyddo gwirfoddol tra bod eraill yn symud i safleoedd eraill.

Cyhoeddodd Tesco y byddai diswyddiadau ar y safle, sy'n cyflogi 800 o weithwyr, ym mis Chwefror eleni.

'Yn falch'

Bellach mae rhai o'r staff wedi derbyn swyddi yng nghanolfannau dosbarthu Reading a Dagenham.

Dywedodd llefarydd ar ran Tesco: "Rydym yn falch bod yr ymgynghoriad gyda gweithwyr a'r undeb ym Magwyr wedi dod i ganlyniad positif, gyda neb yn wynebu diswyddo gorfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb: "Er bod unrhyw ddiswyddiadau yn siomedig, does dim dwywaith y bydd yn rhyddhad i staff bod y diswyddiadau'n wirfoddol ..."

Straeon perthnasol