Dwyn gwenyn yn 'broblem gynyddol'

Elaine Spence and one of her hives
Image caption Dywed Elaine Spence fod rhaid bod y lladron â gwybodaeth arbenigol am gychod gwenyn

Mae dwyn gwenyn yn broblem gynyddol yng Nghymru a chychod gwenyn sy'n cael eu dwyn yn werth dros £200, medd diooddefwraig.

Dywedodd Elaine Spence, sy'n cadw gwenyn yng Nghaerdydd, fod un o'i chychod wedi cael ei wagio ym mis Mawrth.

Roedd yn gwybod, meddai, am 10 cwch gwenyn arall gafodd eu dwyn dros y flwyddyn ddiwethaf, a dywedodd fod gan y lladron wybodaeth arbenigol.

Er nad oes ffigyrau swyddogol o'r drosedd, mae rhaglen Eye On Wales ar BBC Radio Wales wedi canfod nifer o achosion.

Dywedodd Ms Spence wrth y rhaglen: "Edrychais ar y cwch gwenyn a doedd dim to arno. Roeddwn yn synnu'n fawr.

Image caption Mae gwenyn yn hanfodol er mwyn peillio cnydau

"Codais yr hyn oedd yn weddill o'r cwch ac roedd yn wag.

"Mae pawb sy'n cadw gwenyn yn gweithio'n galed i sicrhau bod y gwenyn yn byw drwy'r gaeaf - rydym yn gofalu amdanyn nhw fel aelod o'r teulu bron.

"Felly mae dod a gweld eu bod nhw wedi cael eu cipio yn ergyd fawr.

"Mae gennym flychau ar gyfer cario gwenyn sy'n dal tua chwe ffrâm - alla' i ond meddwl bod gan y lladron focsys o'r fath.

'Llond cwch'

Fe wnaethon nhw godi chwe ffrâm allan o'r cwch ac i ffwrdd â nhw.

"Er mwyn dwyn llond cwch o wenyn rhaid i chi wybod beth yr ydych yn ei wneud.

"Roedd y gwenyn gafodd eu dwyn yn eitha' gwyllt - bu'n rhaid i mi fynd i'r ysbyty y llynedd gan eu bod nhw wedi fy mhigo."

Roedd Ms Spence yn amcangyfrif y gallai coloni o wenyn werthu am fwy na £200.

Eye on Wales, BBC Radio Wales ddydd Sul, 1:00pm.

Straeon perthnasol