Pwy yw'r pedwar?

Dysgwyr y Flwyddyn Image copyright Arall
Image caption Craig ab Iago, Kathleen Isaac a Martyn Croydon

Y pedwar ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yw Craig ab Iago, Martyn Croydon, Kathleen Isaac a Darran Lloyd.

Cyhoeddwyd yr enwau yn Theatr y Scala, Prestatyn, ddydd Sadwrn.

Bydd y pedwar ar Faes yr Eisteddfod yn Ninbych, ddydd Mercher Awst 7, yn y rownd derfynol.

Wrth gyhoeddi enwau'r pedwar, dywedodd un o'r beirniaid, John Les Tomos: "Cawsom ni ddiwrnod arbennig iawn ym Mhrestatyn yn cyfarfod bron 20 o ddysgwyr brwdfrydig.

"Roedd y safon eleni'n wych, a roeddem ni fel beirniaid yn gwbl gytûn mai'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru sy'n elwa o benderfyniad y bobl yma i fynd ati i ddysgu Cymraeg.

"Fe fydden ni wedi hoffi rhoi rhagor o bobl ar y rhestr fer ond doedd dim modd gwneud hyn."

Craig ab Iago

Er ei fod yn dod o deulu Cymraeg, cafodd Craig ei eni a'i fagu mewn gwahanol rannau o Loegr ac Ewrop gan fod ei dad yn gweithio gyda'r Awyrlu.

Ni chafodd ei fagu yn y Gymraeg a phan ddychwelodd i Gymru ar gyfer angladd teuluol cafodd ei atgoffa eto nad oedd yn siarad yr un iaith â nifer fawr o'i deulu estynedig. Felly dyna fynd ati i ddysgu Cymraeg.

Image copyright Arall
Image caption Craig ab Iago: Yr iaith wedi newid ei fywyd

Aeth ar gwrs WLPAN dwys yn Llanbedr Pont Steffan cyn dychwelyd i'r coleg i orffen ei radd ffisiotherapi ac yna cael swydd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, a symud i Rosgadfan i fyw.

Dywedodd Craig fod dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd yn hollol, wedi newid ei wleidyddiaeth, y ffordd mae'n gweld y byd a sut y mae'n teimlo am ei hun.

"Mae'r Gymraeg wedi rhoi gwreiddiau a phwrpas imi ac wedi llenwi fy nghalon," meddai.

Mae'n weithgar iawn yn ei gymuned ac yn awyddus i wneud cyfraniad positif i'r iaith. Yn yr hydref mae'n gobeithio cychwyn cwrs MA mewn Cynllunio a Pholisi Ieithyddol ym Mhrifysgol Bangor.

Erbyn hyn mae'n dad balch i Ynyr Gwynedd, sydd bron yn flwydd a hanner, a Chymraeg yw iaith y cartref a'r iaith y mae'n siarad gyda'i fam a'i chwiorydd.

Martyn Croydon

O Redditch y daw Martyn ond dywedodd ei fod "wedi gwirioni gyda Phen Llŷn ers cyn cof" a phan ddaeth y cyfle fe symudodd draw i Gymru i fyw, i redeg ei fusnes creu gwefannau ac astudio gyda'r Brifysgol Agored.

Image copyright Arall
Image caption Martyn Croydon: Yn diwtor Cymraeg ers Medi 2012

Dechreuodd ddysgu Cymraeg, gan ddefnyddio llyfrau a thros y we ond ar ôl symud, dechreuodd fynychu gwersi Cymraeg ym Mhwllheli.

Erbyn hyn mae Martyn, sydd wedi setlo yn Llannor, wedi pasio'i arholiad Lefel A Cymraeg ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ers Medi 2012.

Mae'n weithgar yn ei gymuned leol. "Mae hyn yn rhoi cyfle imi ddefnyddio'i Gymraeg bob dydd ac rwy'n gwirfoddoli gyda'r papur bro lleol, Llanw Llŷn," meddai.

Kathleen Isaac

O Abertawe y daw Kathleen a phan symudodd o'r ddinas i Cross Hands bum mlynedd yn ôl, sylweddolodd pa mor gryf oedd y Gymraeg yn yr ardal leol a'i bod yn awyddus i ddysgu Cymraeg gyda'i phlant.

Ar y cychwyn roedd hi'n defnyddio'r Gymraeg gyda'r plant a'r ci, a bu'i brawd yng nghyfraith yn ddylanwad mawr arni, gan newid cyfrwng iaith wrth sgwrsio yn gynnar iawn, gan orfodi Kathleen i ddefnyddio'i Chymraeg.

Image copyright Arall
Image caption Kathleen Isaac: Cafodd ei phartner, Roger, dipyn o sioc pan ofynnodd am lyfr gramadeg fel anrheg Nadolig.

Dechreuodd greu bywyd Cymraeg o'i hamgylch, gan fynychu gwersi rheolaidd yn y Ganolfan Cymraeg i Oedolion lleol, ymarfer yr iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth, darllen llyfrau Cymraeg gyda'r plant, gwylio S4C, gwrando ar Radio Cymru, a darllen arwyddion Cymraeg mewn siopau.

Cafodd ei phartner, Roger, dipyn o sioc pan ofynnodd Kathleen am lyfr gramadeg fel anrheg Nadolig.

Mae Kathleen yn dilyn y cwrs canolradd unwaith yr wythnos, ac yn mynd i ddosbarth "Siawns am Sgwrs" yn rheolaidd.

Dywedodd fod pawb yn ei bywyd yn gwybod ei bod yn dysgu Cymraeg ac mae hi'n dysgu geiriau newydd bob dydd, ac yn eu hymarfer gyda theulu a ffrindiau.

"Mae dysgu Cymraeg wedi agor bywyd arall ac rwy' wrth fy modd yn byw mewn cymuned Gymraeg," meddai.

Darran Lloyd

Daw Darran Lloyd o Aberdâr ac mae'n dysgu Cymraeg ers bron pedair blynedd.

Mae'n gweithio fel hyfforddwr yn Heddlu De Cymru ac yn teimlo bod dysgu'r iaith wedi newid ei fywyd.

Image copyright Arall
Image caption Darran Lloyd: Gofynnodd ei dad-cu iddo gystadlu

Erbyn hyn mae'n dysgu Dosbarth Mynediad Cymraeg Heddlu De Cymru. "Mae hyn yn brofiad arbennig, gan roi cyfle i fi rannu'r iaith a helpu pobl eraill yn y gweithle i gychwyn ar eu taith i ddysgu Cymraeg."

Er iddo astudio rhywfaint o'r Gymraeg yn yr ysgol nid oedd yn defnyddio'r iaith y tu allan i'r dosbarth o gwbl a bu'n difaru ei fod heb barhau i ddysgu'r iaith.

Felly roedd yn falch pan gafodd y cyfle i fynd ati i ddysgu'r iaith gyda'r gwaith, a thros y tair blynedd ddiwethaf mae Darran wedi llwyddo'n rhyfeddol, ac yn dilyn y cwrs uwch ar hyn o bryd.

Ddwy flynedd yn ôl enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn y gwaith a symbylodd hyn Darran i barhau gyda'i Gymraeg.

"Dwi wedi dysgu llawer am fy hun, fy ngwlad, fy ardal a'r teulu ers dysgu Cymraeg ac rwy'n falch i gael y cyfle i siarad Cymraeg gyda Dad-cu cyn iddo farw y llynedd."

Gofynnodd ei dad-cu iddo gystadlu am deitl Dysgwr y Flwyddyn, a phenderfynodd Darran wneud hynny eleni er cof amdano.

Bydd modd gwylio dwy raglen fydd yn dod i adnabod y pedwar sydd ar y rhestr fer ac yn cyhoeddi'r enillydd ar Hwb, ar S4C, nos Sul 4 Awst am 10.00pm a phrynhawn Sul 11 Awst am 4.50pm.

Straeon perthnasol